Adran Cyfraith Gyhoeddus a
Rhyngwladol
Prifysgol Oslo
Kirsten Sandberg
Cadeirydd
Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Yr hawliau dynol sy’n hanfodol er mwyn gwahardd cosbi plant yn gorfforol yn llwyr
Grŵp Trawsbleidiol ar Blant Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Tachwedd 2013
Gwahardd cosbi corfforol:
O ddiddordeb mawr i’r Pwyllgor
•Y mater wedi ei godi’n gyson gyda gwladwriaethau
–ym mhob deialog
–ym mhob sylwadau clo
•Sylw Cyffredinol Rhif 8 ar gosbi corfforol
•Sylw Cyffredinol Rhif 13 ar amddiffyniad rhag pob math o drais
•Sylw Cyffredinol Rhif 15 ar yr hawl i iechyd
Sylw Cyffredinol Rhif 8
•Parchu urddas dynol a chyfanrwydd corfforol y plentyn ac amddiffyniad cyfartal o dan y gyfraith
•Rhwymedigaeth pob plaid ymhob gwladwriaeth i symud yn gyflym i wahardd a chael gwared ar gosbi corfforol yn llwyr
•Rhwymedigaeth ddiamod a di-oed
•Hefyd yn strategaeth allweddol ar gyfer lleihau ac atal pob math o drais mewn cymdeithas
Sylw Cyffredinol Rhif 8, parhad
•Erthygl 19: Disgwylir i wladwriaethau gymryd pob cam priodol i amddiffyn y plentyn rhag pob math o drais
•nid yw “pob math o drais corfforol neu feddyliol” yn gadael lle ar gyfer unrhyw lefel o drais cyfreithlon yn erbyn plant
•Y mesurau yn cynnwys deddfwriaeth
Sylw Cyffredinol Rhif 8, parhad
•Nid yw lles gorau’r plentyn yn cyfiawnhau cosbi corfforol “rhesymol”
•Mae’r Confensiwn yn ei gwneud hi’n ofynnol cael gwared ar unrhyw ddarpariaethau (mewn statud neu yn y gyfraith gyffredin) sy’n caniatáu rhyw elfen o drais yn erbyn plant (e.e. cosbi “rhesymol”)
•Dylai cyfraith droseddol nid yn unig fod yn gwbl berthnasol i ymosodiadau ar blant, ond mae’n hanfodol hefyd bod cyfraith teulu yn gwahardd ei ddefnydd yn glir hefyd
Mae cyrff cytuniadau eraill
•Yn cynnwys Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith a Phwyllgor Hawliau Cymdeithasol Ewrop
•Wedi adlewyrchu’r un farn yn eu sylwadau clo ar adroddiadau pleidiau’r gwladwriaethau
Sylwadau Clo i’r DU 1995
•… mae’r Pwyllgor yn poeni am y darpariaethau cyfreithiol gwladol sy’n ymdrin â chosbi rhesymol o fewn y teulu. Mae’n bosibl y bydd natur amwys y term cosbi rhesymol fel y’i ceir yn y darpariaethau cyfreithiol hyn yn arwain at ddehongli’r term mewn modd goddrychol a mympwyol
Sylwadau Clo i’r DU 2002
•Mae’r Pwyllgor o’r farn nad yw argymhellion y Llywodraeth i gyfyngu ar yr amddiffyniad o “gosbi rhesymol” yn hytrach na chael gwared arno yn cydymffurfio ag egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn a’r argymhellion a nodwyd eisoes, yn enwedig gan eu bod yn gyfystyr â thramgwydd difrifol yn erbyn urddas y plentyn …
2002, parhad
•… At hyn, maent yn awgrymu bod rhai mathau o gosbi corfforol yn dderbyniol, gan danseilio mesurau addysgol i hyrwyddo disgyblu cadarnhaol a di-drais.
Sylwadau Clo i’r DU 2008
•Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wahardd cosbi corfforol yn y cartref yn llwyr, ond yn nodi o dan delerau datganoli nad yw’n bosibl i’r Cynulliad ddeddfu yn hyn o beth.
2008, parhad
•Mae’r Pwyllgor….yn pwysleisio ei farn nad yw bodolaeth unrhyw amddiffyniad mewn achosion o gosbi plant yn gorfforol yn cydymffurfio â’r egwyddorion a’r darpariaethau yn y Confensiwn, gan y byddent yn awgrymu bod rhai mathau o gosbi corfforol yn dderbyniol.
Argymhelliad i’r DU 2008
•Fel mater o flaenoriaeth gwahardd pob math o gosbi corfforol yn y teulu, yn cynnwys drwy ddiddymu pob amddiffyniad cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr…;
Argymhelliad 2008, parhad
•Mynd ati’n ddyfal i hyrwyddo mathau cadarnhaol a di-drais o ddisgyblu a pharch i hawl cyfartal y plentyn i urddas dynol a chyfanrwydd corfforol,
•gyda golwg ar gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau plant i gael eu hamddiffyn rhag pob math o gosbi corfforol
•a lleihau pa mor dderbyniol ydyw wrth fagu plant ym marn y cyhoedd
•Serch hynny: Rhaid wrth ddeddfwriaeth!
Ymrwymiad Cymru
Adroddiad y DU 2007:
•“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi ymrwymo ei hun i gefnogi gwaharddiad ar gosbi plant yn gorfforol ac mae wedi cyllido cyhoeddi llyfryn o’r enw Help in Hand a roddir i bob rhiant newydd sy’n cynnwys cyngor ar ffyrdd cadarnhaol o ymdrin ag ymddygiad ac osgoi taro.”
Sylwadau Clo i’r DU 2008
•Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wahardd cosbi corfforol yn y cartref yn llwyr, ond yn nodi o dan delerau datganoli nad yw’n bosibl i’r Cynulliad ddeddfu yn hyn o beth.
Datblygiad pellach
• Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011: Sylw dyledus i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn
•Pwerau datganoledig 2011
•Cynnig i wahardd yn llwyr yn 2011, yn cael ei wrthod
•Cynllun Hawliau Plant 2012 yn pwysleisio’r ymrwymiad i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn